Ffarwel

Diolch i bawb wnaeth ddarllen fy mlog. Arbrawf diddorol a hynod afaelgar – o’m rhan i, beth bynnag!

Efallai y bydd gen i’r hyder i sgwennu blog arall rhywbryd – o dan fy enw go iawn y tro nesa’, o bosib??!

Pob hwyl i bawb arall sy’n blogio yn Gymraeg – daliwch ati!

Ail-ddyfeisio’r Eisteddfod

Dwi’n meddwl ‘mod i wedi bod i bob un Eisteddfod pan oeddwn i’n ifanc. Yn blentyn roeddwn i wrth fy modd yn crwydro’r Maes, yn gweld ser rhaglenni plant ‘yn y cnawd’, ambell i wleidydd amlwg a phrotest neu ddwy. Roeddwn i hyd yn oed yn cyffroi rhyw gymaint pan oedd yr Orsedd yn gwneud ei ffordd i’r Pafiliwn ar gyfer un o’r prif seremoniau.

Wedyn, yn fy arddegau, darganfyddais bod ochr arall i’r diwylliant Cymreig, gan eistedd drwy’r dydd yn y babell ieuenctid yn mwynhau gwylio grwpiau roc a phop a wedyn yn mynd i gig wahanol bob nos i weld yr un grwpiau eto ond y tro yma wedi cael ambell i wydryn. Damia, mi fues i hyd yn oed mewn ambell ddrama…

Wedyn, dros nos bron iawn, collodd yr Eisteddfod ei apel. Roedd ‘na rhyw wacter yn yr holl beth i mi ac roeddwn i’n teimlo’n eitha blin, a bod yn onest, nad oedd fawr ddim byd mewn gwirionedd yn ein GWYL GENEDLAETHOL oedd yn apelio ataf fi.

Ai fi oedd wedi colli’r Eisteddfod, neu oedd yr Eisteddfod wedi ‘ngholli i?

Heblaw am ambell ymweliad i’w wneud a’m gwaith (ac os ydy’r steddfod yn unrhyw beth mae’n jambori corfforaethol Cymreig!) prin ydw i wedi tywyllu gwelltyn ar y Maes ers rhyw bymtheng mlynedd. Ond eleni, a pediwich a gofyn pam, dwi’n teimlo fel rhoi cynnig arall arni…

Felly beth fyddai’n llwyddo i newid fy meddwl er gwell am y Brifwyl?

Yn bersonol dwi’n meddwl bod angen chwyldroi arlwy’r Pafiliwn. Hwn ydy canolbwynt yr holl beth ac os ydw i’n cofio’n iawn (ac efallai bod pethau wedi gwella erbyn hyn?) mae’r lle yn hollol ddiflas dri chwarter yr amser. Oni bai am y prif seremoniau, does ‘na ddim sydd yn fy nenu i yno – na fawr neb arall ‘chwaith, o edrych ar y rhesi seddi gwag.

Rwan, dwi’n gwybod bod angen cadw naws Gymreig ac ‘eisteddfodol’ (a dydw i ddim yn argymell ein bod ni’n hurio Cirque du Soleil, y Blue Man Group na Status Quo) ond siawns y gallwn ni feddwl am bethau mwy deniadol i lenwi diwrnod ar lwyfan yr Wyl? Llai o’r cystadlaethau ail-adroddus traddodiadol boring a rhagor o berfformiadau, seremoniau a dathlu gwir natur ein diwylliant ni heddiw.

 Dod ag ysbryd yr ymylon i’r canol. Mwy o swn, mwy o liw a digon o gwrw…

Mi fyddai hynny’n ddechrau, beth bynnag.

Obsesiwn a chrefydd

Un theori athronyddol sydd gen i (“yeah, right…”) ydy bod gan bawb obsesiynau – mae’n un o’r pethau ‘na sy’n diffinio dynoliaeth – a bod pawb, mewn gwirionedd, yn gaeth i rai obsesiynau.

Efallai eich bod chi wedi sylweddoli erbyn hyn mai un o’m hobsesiynau i ydy poeni / bod yn negyddol ynglyn a’r Gymraeg! Dwi’n meddwl bod ‘na bethau wedi digwydd i mi ar hyd y blynyddoedd sydd wedi atgyfnerthu hynny ond, mewn gwirionedd, roedd y tueddiad hwnnw ynof fi ers roeddwn i’n ifanc iawn. Mae’n rhan o ‘mhersonoliaeth i.

Ond mae gen i obsesiynau eraill hefyd wrth gwrs. Fel y rheidrwydd i drefnu pob gwyliau rydw i’n eu cymryd hefo fy nheulu i lawr i’r manylyn bach olaf. Cyn mynd ar wyliau i unrhyw le mi fydda i wedi darllen llond llaw o lyfrau am y lle, wedi gwario oriau ar y we yn holi barn teithwyr eraill am y lleoliad, ac wedi trefnu amserlen fanwl a chynllun sy’n cynnwys bwytai, llefydd i ymweld a nhw, cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd llefydd, ac yn y blaen. Mae’r syniad o jyst troi i fyny rhywle newydd a dilyn fy nhrwyn yn wallgof i mi. Dydy o jyst ddim yn gwneud sens o gwbl…

Dwi ddim yn gwybod a oes yna ffin rhwng obsesiwn a llwyrddibyniaeth (addiction). Os oes yna ffin, mae’n un denau iawn. Efallai mai’r unig wahaniaeth rhwng y ddau ydy’r ffaith bod llwyrddibyniaeth yn cael effaith negyddol ar yr unigolyn neu ar gymdeithas.

Un nodwedd o obsesiwn ydy’r ffaith nad ydym ni yn deall obsesiynau pobl eraill os nad ydyn ni yn rhannu’r obsesiwn hwnnw.

Dydw i ddim yn grefyddol o gwbl ac, er fy mod yn parchu hawliau pobl i ddilyn crefydd, mewn gwirionedd dydy crefydd jyst ddim yn gwneud sens i mi. Dwi wedi cael trafodaethau diddorol a manwl iawn hefo pobl grefyddol felly dydw i ddim yn trio eu bychanu nhw o gwbl wrth ddatgan hynny – ond dydy crefydd ddim ar fy ‘radar’ i, a dwi’n falch o hynny oherwydd bod gen i ddigon o obsesiynau’n barod! A be’ di’r pwynt o fod yn grefyddol oni bai eich bod chi’n obsesiynol am y peth?

Yr unig broblem hefo hynny wrth gwrs ydy mai yn o nodweddion unrhyw grefydd ydy’r angen sydd gennych chi i drio ennill pobl eraill drosodd i’ch ffydd chi. Mae hynny’n iawn mewn byd hollol rydd lle mae gan bawb yr hawl i benderfynu, ond unwaith mae gan grefyddwyr y “critical mass” i gael grym gwleidyddol (o unrhyw fath) - mae hynny’n sefyllfa beryglus iawn i bobl fel fi sy’n mynnu’r hawl i ymwrthod.

Blaenoriaethau

Ydych chi weithiau yn cael eich hunain yn rhoi lot gormod o ymdrech i rywbeth sydd, yn y pendraw, jyst ddim werth yr ymdrech?

Dyna wnes i dros y dyddiau diwethaf hefo’r drafodaeth am statws yr iaith fel “priod iaith” Cymru ym mesur iaith y Gymdeithas.

Ymatebodd Sion Owain a gwneud i mi sylweddoli bod ‘na bethau pwysicach na hynny.

Mae sefyllfa’r Gymraeg yn gallu edrych yn reit iach weithiau ond – bob dydd - mae ‘na filoedd ar filoedd o Gymry sydd HEFO rhyw gymaint o gefndir teuluol Cymraeg ac sydd, yn aml, WEDI cael addysg Gymraeg – yn ei chael hi’n haws i droi eu cefnau ar yr iaith.

Neu efallai na chawson nhw erioed eu hennill drosodd at y Gymraeg o’r cychwyn, mewn gwirionedd.

A pwy fedr eu beio nhw chwaith – maen nhw hefyd yn siarad un o ieithoedd mawr y byd ac mae’r Saesneg yn rhoi mynediad iddyn nhw i bopeth maen nhw ei angen – adloniant, cerddoriaeth, busnes, gwleidyddiaeth, technoleg, etc, etc. Os nad wyt ti erioed wedi byw dy fywyd yn sylweddol drwy’r Gymraeg, beth yn y byd sy’n mynd i wneud i ti wneud yr ymdrech pan mae’r cyfleoedd mor brin? Ac unwaith mae rhywun yn colli’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn gwahanol sefyllfaoedd, buan iawn y byddi di’n colli’r hyder i gymryd y cam mawr seicolegol hwnnw byth eto.

Y gwir amdani ydy bod siarad Cymraeg, ac ymwneud a diwylliant Gymraeg, heddiw yn weithred wleidyddol ac yn ddatganiad o hunanwch. Dim ond i ychydig iawn o bobl (y rhai lwcus yn ein plith ni) y mae o’n rhywbeth sy’n digwydd yn hollol naturiol ac mae am fod yn frwydr wneith gymryd canrif arall cyn y gallwn ni ei weld o’n ddatblygiad ‘normal’ i bobl mewn niferoedd sylweddol.

A’r tebygrwydd ydy nad hon yn frwydr y gallwn ni ei hennill…

Delwedd anobeithiol, efallai, ond un sy’n ei gwneud yn eglur i mi bod y camau rydyn ni’n eu cymryd heddiw yn hanfodol. Nid ar gyfer ni’n hunain y mae’n rhaid i ni frwydro heddiw am hawliau, am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i normaleiddio’r iaith – ond er mwyn gosod y seiliau ar gyfer y rhai fydd yn ein dilyn ni.

“Priod iaith” #2

Dwi’n ddiochgar iawn i Pigogyn am ei atebion manwl i’r cwestiynau ofynais i am fesur iaith Cymdeithas yr Iaith. Dwi wedi ychwanegu’r sylwadau isod, fwy neu lai fel maen nhw yma, i’r sgwrs.

Mae’r datganiad mai’r Gymraeg ydy “priod iaith” Cymru yn dal yn fy mhoeni i’n fawr. Dwi ddim yn siwr iawn beth ydy pwrpas y datganiad hwnnw yn y Mesur. Oes yna fudd cyfreithiol nad ydw i’n ei ddeall, efallai? Ydy’r ffaith bod unrhyw iaith yn cael ei disgrifio fel “priod iaith” unrhyw wlad yn rhoi statws cadarnach iddi yn y maes cyfreithiol? Oes yna enghreifftiau lle mae’r math yma o derminoleg yn cael ei ddefnyddio’n barod mewn gwledydd eraill, efallai?

Mae’n ddatganiad sydd yn mynd gam yn rhy bell yn fy marn i. Mae’n swnio i mi fel ymgais carfan sydd wedi dioddef annhegwch dros y blynyddoedd i fynnu na fydd yw’r un peth yn digwydd eto gan sicrhau statws “uwch” iddyn nhw eu hunian nag i bobl eraill. Dwi’n derbyn nad hynny ydy’r bwriad, ond dyna’r argraff gyntaf ddaeth i’m meddwl i.

Petai unrhyw fath o anghydfod yn digwydd, efallai y byddai pobl yn defnyddio’r ddeddf newydd ac yn dweud, “sbiwch, dydy’r Saesneg ddim yn briod iaith yma – dyna mae’r ddeddf yn ei ddweud – felly does gennych chi ddim yr un hawliau a ni”.

Dydy cyfnewid un annhegwch am un arall ddim yn rhywbeth i anelu ato, yn fy marn i, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgyrchu am yr un hawliau, nid am statws uwch.

Pam “priod iaith”?

Mesur yr Iaith Gymraeg 2007Maddeuwch i mi os ydw i’n cyrraedd y drafodaeth yma yn hwyr. Y Ddeddf Iaith Newydd sydd ar fy meddwl eto.

Gan fy mod wedi gofyn cwestiwn am effaith deddf iaith newydd ar y sector breifat y tro diwethaf, rhoddais gynnig ar dipyn o ymchwil fy hun a darllenais fesur iaith Cymdeithas yr Iaith ar eu safle nhw. Efallai y gwna i sgwennu rhagor am y sector breifat eto rhywbryd ond mae ‘na rywbeth arall yn fy mhoeni i rwan. Rhywbeth eitha sylfaenol…

Pwynt cyntaf y mesur iaith ydy disgrifiad o’r Gymraeg fel “priod iaith Cymru”. Mae’r cyfieithiad Saesneg yn golygu rhywbeth gwahanol yn fy marn i.  “The Welsh language is the native language of Wales” ydy o yn y cyfieithiad.

Fel Cymro Cymraeg iaith gyntaf o ardal Gymraeg iawn, mae’n siwr na ddylai hynny fy mhoeni i o gwbl. Ond mae o.

Dwi’n meddwl y dylsen ni fel siaradwyr Cymraeg fod yn brwydro am degwch. Am ein hawliau ochr yn ochr a phobl eraill y byd. Mi ddylien ni gael ein trin yn deg ond mae’r datganiad ynglyn a’r Gymraeg yn briod iaith Cymru (ac mae’r geiriad yn awgrymu mai’r Gymraeg ydy unig briod iaith Cymru) yn gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

“Pa wahaniaeth am hynny?”, meddech chi. “Ni ydy’r lleiafrif ac mae ganddyn nhw lond trol o hawliau’n barod.”

Hyd yn oed pan oeddwn i’n tyfu i fyny yng nghadarnle’r Gymraeg roedd gennym ni bobl yn byw yn yr un stryd a minnau nad oedden nhw’n siarad Cymraeg. Pobl oedd wedi mewnfudo yn weddol ddiweddar o lefydd fel Lerpwl, ac eraill oedd ag acenion Seisnig dros ben ond a oedd wedi eu geni a’u magu yma. Roedd yna o leia un teulu o Iwerddon a dau neu dri o bobl uniaith Saesneg oedd wedi ymddeol.

Dydw i ddim yn hanesydd (a cywirwch fi os ydw i’n gwneud camgymeriad) ond dwi ddim yn teimlo’n gartrefol hefo’r cysyniad mai’r Gymraeg ydy unig briod iaith Cymru. Mae bron yn rhoi’r argraff mai rhywbeth diweddar iawn ydy’r defnydd o Saesneg yng Nghymru a rhywbeth sydd wedi ei orfodi arnom ni ydy o. Wrth gwrs mae’r orfodaeth yna yn wir i raddau ond mae’n rhaid i ni wynebu ein cyfrifoldebau hanesyddol ni hefyd yn y broses.

A dwi’n meddwl ei bod yn hanfodol nad ydyn ni, yn y frwydr hir i gael statws llawn i’r Gymraeg a hawliau i siaradwyr Cymraeg, yn sathru ar hawliau ein cyd-Gymry a phobl eraill rydyn ni’n cyd-fyw hefo nhw.

Deddf Iaith a’r sector breifat

Dwi angen arweiniad. Mae’r holl sylw i “sgandal fawr” Thomas Cook yn gwneud i mi feddwl i ba raddau fyddai deddf iaith newydd yn gallu gwneud unrhyw wahaniaeth mewn sefyllfaoedd fel hyn.

Wrth gwrs dwi’n credu’n gryf bod angen i gyrff cyhoeddus gynnig gwasanaethau cydradd yn y Gymraeg a’r Saesneg ac os oes angen deddf iaith newydd i sicrhau bod hynny’n digwydd ymhob corff a gwasanaeth cyhoeddus, dwi’n cefnogi 100%.

Ond mae’r sector breifat yn fwy cymhleth, siawns. Oes mae angen annog cwmniau i ddefnyddio’r Gymraeg ac, yn wir, i’w hyrwyddo hi. Ac oes, mae angen deddfwriaeth i sicrhau nad oes gwahaniaethu annheg yn erbyn pobl sy’n dymuno siarad Cymraeg. Ond heblaw am osgoi gwahaniaethu, fedrwn ni yn wirioneddol wneud unrhyw beth heblaw annog?