Dwi Eisiau Bod Yn Americanwr

Gormod o gefnogaeth i’r Gymraeg

Mai 17, 2007 · 1 Sylw

Wyddoch chi bod y Gymraeg yn cael gormod o gefnogaeth erbyn hyn? Dyna ydy’r farn gyffredinol, mae’n debyg - ond bod neb yn ddigon dewr i ddatgan hynny’n gyhoeddus.

Ydy, mae’n chwerthinllyd ond eto mae ‘na dipyn bach o wirionedd hyd yn oed mewn safbwyntiau ysgubol fel hyn. Rydych chi’n gweld hynny yn y lle dwi’n gweithio weithiau, mewn cyfarfodydd lle mae’r mwyafrif helaeth yn ddi-Gymraeg ac mae pwnc y Gymraeg yn codi (e.e. “cofiwch bydd angen i ni gael y daflen yna yn Gymraeg hefyd”, “fydd ‘na gyfieithu ar y pryd?”, etc) ac mi fedrwch chi weld nad oes ganddyn nhw ddim diddordeb – yn wir maen nhw’n meddwl fod yr holl beth “dwyieithog” yma yn wastraff amser ac arian – ond does gan neb y “gyts” i wrthwynebu’n gyhoeddus.

Dwi’n gwybod bod y sefyllfa yma ganwaith gwell na’r “alternative” – sef bod y Gymraeg yn cael ei hesgeuluso a’n hawliau ni’n cael eu hanwybyddu – ond oes ‘na rywun yn cytuno hefo fi ei bod yn sefyllfa fregus, os nad yn un beryglus iawn?

Categorïau Blogroll

1 response so far ↓

  • Robert Humphries // Mai 20, 2007 at 8:16 yh

    Helo ‘na Americanwr a choeso cynnes i’r Rhithfro.

    Cymro ydw i, yn wreiddiol o Gasnewydd, sydd yn byw heddiw yn nhalaith Wisconsin. mae’ch blog yn edrych yn ddiddorol iawn. Pe byddech chi’n cael cwestiynau am fywyd yn yr UDA, byddwn yn hapus i geisio eu hateb nhw.

    Ar y pwnc uchod, rhaid ddweud fy mod yn clywed yr un fath o agweddau siomedig tua’
    iaith Gymraeg oddiwrth rhai o’r teulu yn ôl yng Nghymru. Rwyf wedi dysgu’r iaith yma, yn America, ac er fy mod i’n briod ag Americanes ac yn hapus yma, rhaid ddweud fy mod wedi troi mwy Cymreig dros y blynyddoedd!

Leave a Comment