.
.
Ar hyn o bryd dwi’n darllen llyfr Bill Bryson, “The Life and Times of the Thunderbolt Kid”, un o’m hoff awduron.
Llyfr ydy sy’n llawn atgofion am ei blentyndod yn Iowa yn y 50au. Oes aur America mewn lot o ffyrdd, mae’n siwr, pan oedd gan poblogaeth yr Unol Daleithiau, sef tua 5% o boblogaeth y byd, fwy o gyfoeth na’r 95% arall i gyd hefo’i gilydd. Dwi ddim yn siwr beth fyddai’r cyfran hwnnw heddiw.
Yn 1955 agorodd Disneyland yn Anaheim, California, ei gatiau am y tro cynta’. Meddai Bryson bod yr ymwelydd cyffredin yn gwario $4.90 ar ddiwrnod yn Disneyland yn y cyfnod cynnar. $2.72 ar fynediad a’r reids, $2 ar fwyd a 18 cents ar nwyddau. Dyfynnu o “Time” magazine y cyfnod mae o.
Y dyddiau yma, mae teuluoedd o Brydain yn cael special offer yn Walt Disney World, sef yr ail barc agorwyd gan Walt Disney (neu ei gwmni, beth bynnag) yn Florida. Gan bod y teulu cyffredin o Brydain yn treulio pythefnos ar wyliau yn Florida fel arfer, maen nhw’n gwerth tocyn arbennig sy’n rhoi mynediad bob dydd am bythefnos (petai rhywun eisiau mynd yno am bob un o’r 14 diwrnod) am £165. Cyfanswm o £660, felly i deulu o bedwar. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae’n bosib y bydd rhywun yn dymuno ymweld a Universal Studios, Sea World, Kennedy Space Center, ac yn y blaen.
Mae’n ddigon hawdd bod teulu’n gwario dros fil o bunnoedd ar fynediad i’r atyniadau yn unig ar wyliau cyffredin yno.
Yn bersonol dwi’n meddwl ei fod o werth pob ceiniog…
Jyst gobeithio bod y rheolwr banc, neu’r cwmni cardiau credyd, neu’r benthycwyr - yn cytuno, ynde!

0 responses so far ↓
There are no comments yet...Kick things off by filling out the form below.