Beth fyddai ei angen arnom ni i sefydlu cymuned Gymraeg newydd go iawn rhywle arall yn y byd?
Ok, gadewch i ni fod yn hollol ‘hypothetical’ rwan. Petaech chi’n cael dewis unrhyw leoliad neu unrhyw amgylchiadau o gwbl, beth fyddai ar eich ‘wishlist’ chi er mwyn eich perswadio i ystyried ffarwelio a Chymru er mwyn bod yn un o aelodau cyntaf cymuned Gymraeg newydd sbon danlli grai? Does dim angen i ni fod yn America rwan. Rhywle yn y byd.
- Presenoldeb eich teulu agos a llond llaw o ffrindiau, efallai?
- Os oes gennych chi blant, neu efallai ar gyfer cynllunio i’r dyfodol, y gallu i gynnal ysgol Gymraeg o ryw fath?
- Y gallu i gyfathrebu hefo cymdeithas Gymraeg ehangach, e.e. trwy’r we, ffonio, mynediad at gymunedau arlein, cyfryngau torfol yn Gymraeg, ac yn y blaen…
Oes ‘na bethau eraill fyddai eu hangen arnoch chi??
5 ymateb so far ↓
Robert Humphries // Mehefin 4, 2007 at 4:07 yb
Mae Wisconsin, lle dw i’n byw, un o’r llefydd a ystyriodd Michael D. Jones fel safle gwladfa Gymreig. Gallaf fynd hanner milltir i lawr y ffordd a gweld yr iaith Gymraeg ar feddau rhai o’r “pioneers” Cymreig a sefydlai’n cymuned ni. Fe ddaeth llawer o Gymry Cymraeg yma rhyw 150 blynedd yn ôl, ond yn anffodus does bron neb o’u disgynyddion heddiw sy’n gallu siarad yr iaith.
Rhys // Mehefin 4, 2007 at 10:54 yb
Gwaith
Hinsawdd addas i gynhyrchu bwyd
Digonedd o law!
Linda // Mehefin 4, 2007 at 4:08 yh
Mae digonedd o law yma ar y West Coast ar Ynys Vancouver
Digon o waith hefyd yn Nyffryn Comox.
Gyda llaw, ‘roedd Ynys Vancouver yn le arall a ystyriwyd fel cymuned ar gyfer y Cymry.
Mae ‘na dal digon o le yma !
Robert Humphries // Mehefin 4, 2007 at 7:24 yh
Rwyf wedi bod wrthi’n darllen am M. D. Jones yn ddiweddar. Fe ystyriodd e Oregon a Gorllewin Canada cyn iddo benderfynu (gyda rhai eraill yn y mudiad ymfudo) am Batagonia.
Nad oedd Jones yn hoff o’r syniad ymfudo wedi iddo weld y Cymry’n colli eu hiaith a’u Cymreictod, ond cydnabyddodd ef y problemau economaidd (fel gormes y landlordiaid) a wnaeth i’r Cymry adael eu gwlad. Yn ôl Jones, byddai’n well i’r Cymry ymfudo fel cymuned a rheoli eu hunain yn eu gwlad newydd. Dyma pam penderfynwyd sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia – doedd bron dim llywodraeth ffurfiol yno ar y pryd.
Sori, dydy hyn ddim yn ateb eich cwestiwn. Dydw i ddim yn siwr am safle i wladfa newydd heddiw!
Ond gallwn ddychmygu rhyw fusnes llwyddianus o Gymru yn y dyfodol yn creu “gwladfa fechan” Gymraeg dros ei weithwyr tramor.
ymwslimcymraeg // Mehefin 7, 2007 at 4:55 yh
Mae rhaid i mi ddweud roeddwn i yn hoff iawn or syniad o symud I America neu Canada I byw, gyda safon o fyw yn edrych yn da a blaengar. Mae’r cyfraniad iechyd yn edrych fel dipyn o broblem, ond rwyn siwr gyda pae da bydd hyn ddym mor gymaint o broblem i gymharu gyda y rhestr aros yr NHS.
Gwnaeth rhywun gweld y rhaglen wythnos hyn or cyfres teledu Paul Merton yn China? Dydw I ddym yn mynd I arlliwio pob Americanwr gydar sylwedaeth hyn ond yn fy barn I nid oedd y twristiau yn gwneud llawer I gwasgaru y meddylrith mae pobol trahaus; annymunol; hunan cefnogi oedden nhw. Yn fy barn I does yna ddim genedl sydd yn fwy rhemp am amsugno Diwylliant ac hunaniaeth na America.
Galla i awgrymu bod rhyw un yn gwneud rhybeth I Gymru! Gwnewch eich miliynau tu allan I Prydain mae hyn yn teg, ond peidiwch a anghofio eich cymuned. Rhowch yn ol ir cymdeithas, y cyfleusterau yr oeddech chi yn ffodus I dderbyn ac atgenhedlu y trefydd sydd yn angen datblygiad.