Dwi angen arweiniad. Mae’r holl sylw i “sgandal fawr” Thomas Cook yn gwneud i mi feddwl i ba raddau fyddai deddf iaith newydd yn gallu gwneud unrhyw wahaniaeth mewn sefyllfaoedd fel hyn.
Wrth gwrs dwi’n credu’n gryf bod angen i gyrff cyhoeddus gynnig gwasanaethau cydradd yn y Gymraeg a’r Saesneg ac os oes angen deddf iaith newydd i sicrhau bod hynny’n digwydd ymhob corff a gwasanaeth cyhoeddus, dwi’n cefnogi 100%.
Ond mae’r sector breifat yn fwy cymhleth, siawns. Oes mae angen annog cwmniau i ddefnyddio’r Gymraeg ac, yn wir, i’w hyrwyddo hi. Ac oes, mae angen deddfwriaeth i sicrhau nad oes gwahaniaethu annheg yn erbyn pobl sy’n dymuno siarad Cymraeg. Ond heblaw am osgoi gwahaniaethu, fedrwn ni yn wirioneddol wneud unrhyw beth heblaw annog?
1 response so far ↓
pigogyn // Mehefin 18, 2007 at 11:36 yh
Rydyn ni wedi gweld ffrwyth 20 mlynedd o ‘anogaeth’ gan y Bwrdd yn y sector preifat – sef defnydd tocenistaidd ac anwastad o’r Gymraeg i ryw raddau mewn rhai lleoedd. Mae’n bryd trio rhywbeth arall. Mae deddfwriaeth yn gweithio. Am flynyddoedd, ceisiodd y naill llywodraeth ar ôl y llall berswadio pobl nad oedd hi’n deg iddynt orfodi pobl erail i anadlu eu mwg. Chafodd hynny ddim lot o effaith. Nawr, mae’n anghyfeithlon i ymsmygu mewn lleoedd cyhoeddus. Sai wedi gweld neb yn torri’r gyfraith hyd yma ac mae fy ysygyfaint yn hapusach.
Mae’n ddigon rhwydd deddfu i orfodi’r sector preifat i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn union fel mae busnesau wedi gorfod addasu ar gyfer pobl anabl, pobl hoyw etc etc. Mae’r bobl sy’n credu mewn perswad wedi cael 20 mlynedd i ddangos nad yw’n gweithio. Deddf yw’r unig ateb.