Dwi Eisiau Bod Yn Americanwr

Pam “priod iaith”?

Mehefin 18, 2007 · 2 Sylw

Mesur yr Iaith Gymraeg 2007Maddeuwch i mi os ydw i’n cyrraedd y drafodaeth yma yn hwyr. Y Ddeddf Iaith Newydd sydd ar fy meddwl eto.

Gan fy mod wedi gofyn cwestiwn am effaith deddf iaith newydd ar y sector breifat y tro diwethaf, rhoddais gynnig ar dipyn o ymchwil fy hun a darllenais fesur iaith Cymdeithas yr Iaith ar eu safle nhw. Efallai y gwna i sgwennu rhagor am y sector breifat eto rhywbryd ond mae ‘na rywbeth arall yn fy mhoeni i rwan. Rhywbeth eitha sylfaenol…

Pwynt cyntaf y mesur iaith ydy disgrifiad o’r Gymraeg fel “priod iaith Cymru”. Mae’r cyfieithiad Saesneg yn golygu rhywbeth gwahanol yn fy marn i.  “The Welsh language is the native language of Wales” ydy o yn y cyfieithiad.

Fel Cymro Cymraeg iaith gyntaf o ardal Gymraeg iawn, mae’n siwr na ddylai hynny fy mhoeni i o gwbl. Ond mae o.

Dwi’n meddwl y dylsen ni fel siaradwyr Cymraeg fod yn brwydro am degwch. Am ein hawliau ochr yn ochr a phobl eraill y byd. Mi ddylien ni gael ein trin yn deg ond mae’r datganiad ynglyn a’r Gymraeg yn briod iaith Cymru (ac mae’r geiriad yn awgrymu mai’r Gymraeg ydy unig briod iaith Cymru) yn gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.

“Pa wahaniaeth am hynny?”, meddech chi. “Ni ydy’r lleiafrif ac mae ganddyn nhw lond trol o hawliau’n barod.”

Hyd yn oed pan oeddwn i’n tyfu i fyny yng nghadarnle’r Gymraeg roedd gennym ni bobl yn byw yn yr un stryd a minnau nad oedden nhw’n siarad Cymraeg. Pobl oedd wedi mewnfudo yn weddol ddiweddar o lefydd fel Lerpwl, ac eraill oedd ag acenion Seisnig dros ben ond a oedd wedi eu geni a’u magu yma. Roedd yna o leia un teulu o Iwerddon a dau neu dri o bobl uniaith Saesneg oedd wedi ymddeol.

Dydw i ddim yn hanesydd (a cywirwch fi os ydw i’n gwneud camgymeriad) ond dwi ddim yn teimlo’n gartrefol hefo’r cysyniad mai’r Gymraeg ydy unig briod iaith Cymru. Mae bron yn rhoi’r argraff mai rhywbeth diweddar iawn ydy’r defnydd o Saesneg yng Nghymru a rhywbeth sydd wedi ei orfodi arnom ni ydy o. Wrth gwrs mae’r orfodaeth yna yn wir i raddau ond mae’n rhaid i ni wynebu ein cyfrifoldebau hanesyddol ni hefyd yn y broses.

A dwi’n meddwl ei bod yn hanfodol nad ydyn ni, yn y frwydr hir i gael statws llawn i’r Gymraeg a hawliau i siaradwyr Cymraeg, yn sathru ar hawliau ein cyd-Gymry a phobl eraill rydyn ni’n cyd-fyw hefo nhw.

Categorïau Blogroll

2 ymateb so far ↓

  • pigogyn // Mehefin 18, 2007 at 11:25 yh

    Does dim bwriad i wahaniaethau yn erbyn pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg yng Nghymru drwy ddatgan mai’r Gymraeg yw priod iaith Cymru. Y nod yw cydnabod y berthynas unigryw sydd rhwng yr iaith Gymraeg, tir Cymru a’r Cymry. Tra bod y Saesneg yn iaith swyddogol de facto drwy’r Deyrnas Unedig, oherwydd bod y Gymraeg yn briod iaith, yn iaith genedlaethol neu’n iaith gynhenid Cymru, mae hefyd yn haeddu bod yn iaith swyddogol yng Nghymru.
    Mae’n wir bod traddodiad o ganrifoedd o siarad Saesneg yng Nghymru, fel y mae traddodiad o nifer o ieithoedd eraill fel Lladin, Ffrangeg Normanaidd, Norseg, Gwyddeleg, Fflemeg etc. Yn ein hoes ni, mae siaradwyr pob math o ieithoedd wedi ymgartrefu yng Nghymru, yn siaradwyr Urdu, Hindi, Pwyleg, Somali, Arabeg, Bengali etc. Dathlwn y cyfoeth diwyllainnol hwn. Ond dim ond yng Nghymru (ac eithrio’r Wladfa wrth gwrs) y mae’r Gymraeg yn fyw fel iaith gymunedol ac mae sail gref i ddadlau bod y genedl Gymreig wedi dod i fodolaeth i raddau helaeth iawn oherwydd dylanwad unol yr iaith Gymraeg. Drwy’r Gymraeg y daeth Cymru i fodolaeth.
    Er mai Saesneg yw’r iaith fwyafrifol yng Nghymru, mae ei pherthynas hi â’r wlad yn wahanol (ond nid yn llai gwerthfawr). Fel iaith y mwyafrif, mae hi’n newydd-ddyfodiad cymharol. Lle mae traddodiad llenyddol, cyfreithiol, gwyddonol, diwinyddol Cymru yn ymestyn yn ôl i’r Oesoedd Canol yn Gymraeg, mae traddodiad y Saesneg yng Nghymru yn dechrau dod i’r amlwg yn y 19g. (er bod enghrau. cyn hynny).
    O fewn yr ‘ecoleg’ ieithyddol yng Nghymru, mae’n ddigon priodol bod y Gymraeg yn cael y lle mwyaf anrhydeddus.
    O ran hawliau, mae eisoes gan siaradwyr Saesneg yng Nghymru yr holl rychwant o hawliau ag sydd gan bawb yn y Deyrnas Unedig. Un o ddibenion Mesur drafft y Gymdeithas yw roi’r un hawliau i siaradwyr y Gymraeg.
    Felly, y Gymraeg sy’n meddiannu’r lefel ‘ symbolaidd’ (meddylia am yr Anthem Genedlaethol), y Gymraeg a’r Saesneg sy’n meddiannu’r lefel ’swyddogol’ (yr ieithoedd y mae dinasyddion â’r llywodraeth yn defnyddio â’i gilydd), ac mae’r ieithoedd eraill yn meddiannu’r lefel ‘weithredol’ yn ôl yr angen (e.e. mae Llywodraeth y Cynulliad weithiau yn cyhoeddi pethau fel y deunydd am y gwaharddiad ar ysmygu yn ‘ieithoedd eraill Cymru’.
    Mae’r Gymraeg yn rhan o gyfoeth diwylliannol Cymru ac mae’n perthyn i bawb sy’n byw yn y wlad, beth bynnag yw eu mamiaith. Os na allwn ni roi’r Gymraeg yn gyntaf yng Nghymru, lle gall hynny ddigwydd?

  • americanwr // Mehefin 20, 2007 at 12:16 yb

    Diolch am dy ateb trwyadl i’m cwestiynau. Dwi’n deall y rhesymeg dipyn yn well rwan ac yn parchu’r ffaith nad bwriad y Gymdeithas ydy gwahaniaethu yn erbyn rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.
    Sgwn i a oes yna fudd cyfreithiol o ddisgrifio’r Gymraeg yn “briod iaith Cymru”? Ydy’r ffaith bod unrhyw iaith yn cael ei disgrifio fel “priod iaith” unrhyw wlad yn rhoi statws cadarnach iddi yn y maes cyfreithiol? Oes yna enghreifftiau lle mae’r math yma o derminoleg yn cael ei ddefnyddio’n barod? Dydw i ddim yn gyfreithiwr felly byddai’n ddiddorol gwybod pa werth cyfreithiol sydd yn y datganiad hwnnw.
    Er dy esboniad rhesymegol mae’n ddatganiad sydd yn mynd gam yn rhy bell yn fy marn i. Mae’n swnio i mi fel ymgais carfan sydd wedi dioddef annhegwch i fynnu na fydd yr un peth yn digwydd eto oherwydd bod statws uwch iddyn nhw nag i bobl eraill. Dwi’n derbyn nad hynny ydy’r bwriad, ond dyna’r argraff gyntaf ddaeth i’m meddwl i.
    Petai unrhyw fath o anghydfod yn digwydd, efallai y byddai pobl yn defnyddio’r ddeddf newydd ac yn dweud, “sbiwch, dydy’r Saesneg ddim yn briod iaith yma – dyna mae’r ddeddf yn ei ddweud – felly does gennych chi ddim yr un hawliau a ni”.
    Dydy cyfnewid un annhegwch am un arall ddim yn rhywbeth i anelu ato, yn fy marn i, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n ymgyrchu am yr un hawliau, nid am statws uwch.

Leave a Comment