Dwi Eisiau Bod Yn Americanwr

Blaenoriaethau

Mehefin 21, 2007 · 1 Sylw

Ydych chi weithiau yn cael eich hunain yn rhoi lot gormod o ymdrech i rywbeth sydd, yn y pendraw, jyst ddim werth yr ymdrech?

Dyna wnes i dros y dyddiau diwethaf hefo’r drafodaeth am statws yr iaith fel “priod iaith” Cymru ym mesur iaith y Gymdeithas.

Ymatebodd Sion Owain a gwneud i mi sylweddoli bod ‘na bethau pwysicach na hynny.

Mae sefyllfa’r Gymraeg yn gallu edrych yn reit iach weithiau ond – bob dydd - mae ‘na filoedd ar filoedd o Gymry sydd HEFO rhyw gymaint o gefndir teuluol Cymraeg ac sydd, yn aml, WEDI cael addysg Gymraeg – yn ei chael hi’n haws i droi eu cefnau ar yr iaith.

Neu efallai na chawson nhw erioed eu hennill drosodd at y Gymraeg o’r cychwyn, mewn gwirionedd.

A pwy fedr eu beio nhw chwaith – maen nhw hefyd yn siarad un o ieithoedd mawr y byd ac mae’r Saesneg yn rhoi mynediad iddyn nhw i bopeth maen nhw ei angen – adloniant, cerddoriaeth, busnes, gwleidyddiaeth, technoleg, etc, etc. Os nad wyt ti erioed wedi byw dy fywyd yn sylweddol drwy’r Gymraeg, beth yn y byd sy’n mynd i wneud i ti wneud yr ymdrech pan mae’r cyfleoedd mor brin? Ac unwaith mae rhywun yn colli’r arfer o ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol mewn gwahanol sefyllfaoedd, buan iawn y byddi di’n colli’r hyder i gymryd y cam mawr seicolegol hwnnw byth eto.

Y gwir amdani ydy bod siarad Cymraeg, ac ymwneud a diwylliant Gymraeg, heddiw yn weithred wleidyddol ac yn ddatganiad o hunanwch. Dim ond i ychydig iawn o bobl (y rhai lwcus yn ein plith ni) y mae o’n rhywbeth sy’n digwydd yn hollol naturiol ac mae am fod yn frwydr wneith gymryd canrif arall cyn y gallwn ni ei weld o’n ddatblygiad ‘normal’ i bobl mewn niferoedd sylweddol.

A’r tebygrwydd ydy nad hon yn frwydr y gallwn ni ei hennill…

Delwedd anobeithiol, efallai, ond un sy’n ei gwneud yn eglur i mi bod y camau rydyn ni’n eu cymryd heddiw yn hanfodol. Nid ar gyfer ni’n hunain y mae’n rhaid i ni frwydro heddiw am hawliau, am gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, ac i normaleiddio’r iaith – ond er mwyn gosod y seiliau ar gyfer y rhai fydd yn ein dilyn ni.

Categorïau Blogroll

1 response so far ↓

  • Yr Afanc // Mehefin 23, 2007 at 10:00 yb

    Yn hollol cytuno, ond yr peth rwyn feindio mor drist yw fod yna pobl sydd efo’r gallu i siarad yr iaith mor rhugl ond eto yn siarad Saesneg pam fod rhywun yn siarad Cymraeg iddyn, ac yna mae’r phobl sydd heb wedi cael eu addysg trwy’r Cymraeg yn rhoi mor gymaint o ymdrech i siarad yr iaith a trio gwella eu safon.

Leave a Comment