Un theori athronyddol sydd gen i (“yeah, right…”) ydy bod gan bawb obsesiynau – mae’n un o’r pethau ‘na sy’n diffinio dynoliaeth – a bod pawb, mewn gwirionedd, yn gaeth i rai obsesiynau.
Efallai eich bod chi wedi sylweddoli erbyn hyn mai un o’m hobsesiynau i ydy poeni / bod yn negyddol ynglyn a’r Gymraeg! Dwi’n meddwl bod ‘na bethau wedi digwydd i mi ar hyd y blynyddoedd sydd wedi atgyfnerthu hynny ond, mewn gwirionedd, roedd y tueddiad hwnnw ynof fi ers roeddwn i’n ifanc iawn. Mae’n rhan o ‘mhersonoliaeth i.
Ond mae gen i obsesiynau eraill hefyd wrth gwrs. Fel y rheidrwydd i drefnu pob gwyliau rydw i’n eu cymryd hefo fy nheulu i lawr i’r manylyn bach olaf. Cyn mynd ar wyliau i unrhyw le mi fydda i wedi darllen llond llaw o lyfrau am y lle, wedi gwario oriau ar y we yn holi barn teithwyr eraill am y lleoliad, ac wedi trefnu amserlen fanwl a chynllun sy’n cynnwys bwytai, llefydd i ymweld a nhw, cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd llefydd, ac yn y blaen. Mae’r syniad o jyst troi i fyny rhywle newydd a dilyn fy nhrwyn yn wallgof i mi. Dydy o jyst ddim yn gwneud sens o gwbl…
Dwi ddim yn gwybod a oes yna ffin rhwng obsesiwn a llwyrddibyniaeth (addiction). Os oes yna ffin, mae’n un denau iawn. Efallai mai’r unig wahaniaeth rhwng y ddau ydy’r ffaith bod llwyrddibyniaeth yn cael effaith negyddol ar yr unigolyn neu ar gymdeithas.
Un nodwedd o obsesiwn ydy’r ffaith nad ydym ni yn deall obsesiynau pobl eraill os nad ydyn ni yn rhannu’r obsesiwn hwnnw.
Dydw i ddim yn grefyddol o gwbl ac, er fy mod yn parchu hawliau pobl i ddilyn crefydd, mewn gwirionedd dydy crefydd jyst ddim yn gwneud sens i mi. Dwi wedi cael trafodaethau diddorol a manwl iawn hefo pobl grefyddol felly dydw i ddim yn trio eu bychanu nhw o gwbl wrth ddatgan hynny – ond dydy crefydd ddim ar fy ‘radar’ i, a dwi’n falch o hynny oherwydd bod gen i ddigon o obsesiynau’n barod! A be’ di’r pwynt o fod yn grefyddol oni bai eich bod chi’n obsesiynol am y peth?
Yr unig broblem hefo hynny wrth gwrs ydy mai yn o nodweddion unrhyw grefydd ydy’r angen sydd gennych chi i drio ennill pobl eraill drosodd i’ch ffydd chi. Mae hynny’n iawn mewn byd hollol rydd lle mae gan bawb yr hawl i benderfynu, ond unwaith mae gan grefyddwyr y “critical mass” i gael grym gwleidyddol (o unrhyw fath) - mae hynny’n sefyllfa beryglus iawn i bobl fel fi sy’n mynnu’r hawl i ymwrthod.
1 response so far ↓
Yr Afanc // Mehefin 24, 2007 at 6:35 yh
Dwi eisiau gwybod beth ydy pawb yn meddwl mae rhaid wneud i cynnyddu dylanwad yr iaith ac i creu Cymru yn wlad dwyieuthog?
Neu does yna ddim siawns i creu Cymru yn wlad dwyieuthog?