Dwi Eisiau Bod Yn Americanwr

Achub pel-droed yng Nghymru

Mai 31, 2007 · 4 Sylw

Dwi’n siwr bod rhywun fel Gary yn gwybod mwy am beth fel hyn na finnau, ac mae’n siwr ei fod wedi sgwennu am hyn ganwaith, ond ‘dach chi ddim yn meddwl ei bod yn hen bryd ACHUB PEL-DROED YNG NGHYMRU??

Mae datganiad Ryan Giggs heddiw ei fod yn ymddeol o’r gem ryngwladol wedi fy niflasu. Peidiwch a ‘nghamddeall, dwi’n ffan mawr o Ryan Giggs ac yn dymuno pob lwc iddo fo yn ei yrfa ac oddi ar y cae, ond son am ddibrisio’r fraint o gael gwisgo crys coch dy wlad… Os ydy rhywun yn ddigon da i gael ei ddewis, fe ddylai ef chwarae dros ei wlad.

Ac mae amseriad y datganiad yn hynod o od. Pam cyhoeddi hyn heddiw, cyn gem fawr tra mae gennym ni dal gyfle (ar bapur beth bynnag) o ffeindio’n hunain mewn ffeinals go iawn am y tro cynta mewn hanner canrif. Pam na fydda fo wedi disgwyl tan ar ol y gem?

Ond mae’r holl beth jyst wedi gwneud i mi feddwl bod angen chwyldro ym mhel-droed Cymru. Mae eisiau i FIFA ddweud nad ydy timau o Gymru yn cael chwarae yng nghyngrair Lloegr. Mae angen i’r clybiau droi rownd a ffurfio cynghrair genedlaethol broffesiynol go iawn hefo dim mwy na rhyw 14-18 o dimau yn cynnwys Caerdydd, Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Bae Colwyn etc. Ac mae angen cefnogaeth ariannol gan y gwleidyddion i adnewyddu’r stadiwms ac i gael strategaeth go iawn i feithrin y chwaraewyr rydyn ni eu hangen i’r dyfodol.

A does gennym ni ddim rheswm i feddwl mai’r FAW fyddai orau i redeg y gem yng Nghymru, felly mae angen cael gwared arnyn nhw a ffurfio cymdeithas newydd.

Pwy sydd efo fi?

→ 4 CommentsCategorïau Blogroll

Gormod o gefnogaeth i’r Gymraeg

Mai 17, 2007 · 1 Sylw

Wyddoch chi bod y Gymraeg yn cael gormod o gefnogaeth erbyn hyn? Dyna ydy’r farn gyffredinol, mae’n debyg - ond bod neb yn ddigon dewr i ddatgan hynny’n gyhoeddus.

Ydy, mae’n chwerthinllyd ond eto mae ‘na dipyn bach o wirionedd hyd yn oed mewn safbwyntiau ysgubol fel hyn. Rydych chi’n gweld hynny yn y lle dwi’n gweithio weithiau, mewn cyfarfodydd lle mae’r mwyafrif helaeth yn ddi-Gymraeg ac mae pwnc y Gymraeg yn codi (e.e. “cofiwch bydd angen i ni gael y daflen yna yn Gymraeg hefyd”, “fydd ‘na gyfieithu ar y pryd?”, etc) ac mi fedrwch chi weld nad oes ganddyn nhw ddim diddordeb – yn wir maen nhw’n meddwl fod yr holl beth “dwyieithog” yma yn wastraff amser ac arian – ond does gan neb y “gyts” i wrthwynebu’n gyhoeddus.

Dwi’n gwybod bod y sefyllfa yma ganwaith gwell na’r “alternative” – sef bod y Gymraeg yn cael ei hesgeuluso a’n hawliau ni’n cael eu hanwybyddu – ond oes ‘na rywun yn cytuno hefo fi ei bod yn sefyllfa fregus, os nad yn un beryglus iawn?

→ 1 CommentCategorïau Blogroll

“Mae’r datblygiad yn Noc Fictoria yn rhy fawr…”

Mai 17, 2007 · Leave a Comment

Un o’r pethau sy’n mynd ar fy nerfau i ydy’r syniad – sydd yn boblogaidd iawn ymysg Cymry Cymraeg – bod angen i bopeth yng Nghymru aros yn union fel mae o. Wir Dduw, os glywa i rywun arall yn dweud “…y datblygiad newydd ‘cw yn Doc Fictoria… ” (does ‘na neb yn deud “yn noc” yn y byd go iawn) “…ew mae o’n fawr yn tydi…” dwi’n meddwl y bydda i’n ffrwydro. Oes, mae eisiau rheolau cynllunio ond blydi hel, oni bai ein bod ni’n cael datblygiadau fel hyn waeth i ni jyst diflannu rwan.

→ Leave a CommentCategorïau Blogroll

Pam symud i America?

Mai 16, 2007 · 2 Sylw

Mae’n gwestiwn teg a dydw i ddim yn deud bod America’n wlad berffaith! Rydyn ni i gyd yn gwybod am eu gwendidau – gobeithio y bydd “dubya” yn hen hanes erbyn i mi gyrraedd…

Ond mae’r tywydd yng Nghymru (fel rheol) yn “poo”. Ydy mae o, a dwi’n digaloni bob tro mae’n glawio neu hyd yn oed pan mae’r awyr yn LLWYD (300+ diwrnod y flwyddyn??). Mi fyddai pethau’n wahanol yn Florida.

Ac mae’r tai yng Nghymru yn rhy fach! O be wela i mae gan rywun lot mwy o le yn America.

Pan welson ni Chris Cope yn y Mall of America yn dweud mai dyna un o’r rhesymau roedd o eisiau gadael, yr hyn oedd yn mynd trwy fy meddwl i oedd – “dyna un o’r rhesymau pam dwi eisiau symud yno!” Digon o siopau. Tai bwyta. Ffair! Paradwys llwyr…

Ac yn olaf, am y tro, mae safon gwasanaeth gymaint yn uwch yn America. Mae pobl yno yn eich trin chi hefo parch ac yn fodlon cael sgwrs hefo chi.

Dwi EISIAU i bobl ddweud “have a nice day” wrtha i.

→ 2 CommentsCategorïau Blogroll

Chris Cope has got it all wrong!

Mai 15, 2007 · 4 Sylw

Heno roedd rhaglen ar S4C am Chris Cope. Chwarae teg iddo fo am ddysgu Cymraeg a symud i Gymru o Minnesota. Dwi’n ei edmygu’n fawr. Ond yn bersonol dwi eisiau ffarwelio a Chymru a symud i fyw i’r Unol Daleithiau!

Siawns bod gen i fantais yn barod. Dwi eisoes wedi dysgu’r iaith! Fydd dim angen i mi boeni am broblemau cyfathrebu a cyn pen chwinciad mi fydda i’n gallu ymdoddi i’r gymdeithas a bod yn Americanwr go iawn.

Diolch i dechnoleg fodern, erbyn hyn wrth gwrs fydd dim angen i mi droi fy nghefn yn llwyr ar Gymru, chwaith, ac mi fydda i’n gallu gwrando ar Radio Cymru, gwylio S4C, mwynhau BBC Cymru’r Byd, blogio a chysylltu hefo teulu a ffrindiau pryd bynnag dwi eisiau.

Felly, beth amdani? Fydd hi’n bosibl i mi fynd unwaith ac am byth, bod yn Americanwr ond peidio colli gafael yn llwyr ar fy Nghymreictod?

“David, it’s over to you…”

→ 4 CommentsCategorïau Uncategorized