Dwi’n meddwl ‘mod i wedi bod i bob un Eisteddfod pan oeddwn i’n ifanc. Yn blentyn roeddwn i wrth fy modd yn crwydro’r Maes, yn gweld ser rhaglenni plant ‘yn y cnawd’, ambell i wleidydd amlwg a phrotest neu ddwy. Roeddwn i hyd yn oed yn cyffroi rhyw gymaint pan oedd yr Orsedd yn gwneud ei ffordd i’r Pafiliwn ar gyfer un o’r prif seremoniau.
Wedyn, yn fy arddegau, darganfyddais bod ochr arall i’r diwylliant Cymreig, gan eistedd drwy’r dydd yn y babell ieuenctid yn mwynhau gwylio grwpiau roc a phop a wedyn yn mynd i gig wahanol bob nos i weld yr un grwpiau eto ond y tro yma wedi cael ambell i wydryn. Damia, mi fues i hyd yn oed mewn ambell ddrama…
Wedyn, dros nos bron iawn, collodd yr Eisteddfod ei apel. Roedd ‘na rhyw wacter yn yr holl beth i mi ac roeddwn i’n teimlo’n eitha blin, a bod yn onest, nad oedd fawr ddim byd mewn gwirionedd yn ein GWYL GENEDLAETHOL oedd yn apelio ataf fi.
Ai fi oedd wedi colli’r Eisteddfod, neu oedd yr Eisteddfod wedi ‘ngholli i?
Heblaw am ambell ymweliad i’w wneud a’m gwaith (ac os ydy’r steddfod yn unrhyw beth mae’n jambori corfforaethol Cymreig!) prin ydw i wedi tywyllu gwelltyn ar y Maes ers rhyw bymtheng mlynedd. Ond eleni, a pediwich a gofyn pam, dwi’n teimlo fel rhoi cynnig arall arni…
Felly beth fyddai’n llwyddo i newid fy meddwl er gwell am y Brifwyl?
Yn bersonol dwi’n meddwl bod angen chwyldroi arlwy’r Pafiliwn. Hwn ydy canolbwynt yr holl beth ac os ydw i’n cofio’n iawn (ac efallai bod pethau wedi gwella erbyn hyn?) mae’r lle yn hollol ddiflas dri chwarter yr amser. Oni bai am y prif seremoniau, does ‘na ddim sydd yn fy nenu i yno – na fawr neb arall ‘chwaith, o edrych ar y rhesi seddi gwag.
Rwan, dwi’n gwybod bod angen cadw naws Gymreig ac ‘eisteddfodol’ (a dydw i ddim yn argymell ein bod ni’n hurio Cirque du Soleil, y Blue Man Group na Status Quo) ond siawns y gallwn ni feddwl am bethau mwy deniadol i lenwi diwrnod ar lwyfan yr Wyl? Llai o’r cystadlaethau ail-adroddus traddodiadol boring a rhagor o berfformiadau, seremoniau a dathlu gwir natur ein diwylliant ni heddiw.
Dod ag ysbryd yr ymylon i’r canol. Mwy o swn, mwy o liw a digon o gwrw…
Mi fyddai hynny’n ddechrau, beth bynnag.